
Cyfnod Allweddol 2
Ein nod yng Nghyfnod Allweddol 2 yw meithrin ym mhob dysgwr yr ymdeimlad o hunaniaeth bersonol a diwylliannol sy’n dderbyniol ac yn parchu eraill. Rydym yn annog pob dysgwr i fod yn aelod llawn o gymuned ein hysgol, a chael mynediad i’r cwricwlwm ehangach a holl weithgareddau’r ysgol mewn amrywiaeth o arddulliau dysgu ac addysgu.
Mae’r pynciau canlynol yn cael eu cynnwys yn y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 yn ogystal a chynnwys y fframwaith statudol llythrennedd a rhifedd:
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Hanes, Daearyddiaeth, Celf a Dylunio, Cerddoriaeth Addysg Grefyddol ac Addysg Gorfforol.
Bydd y cwricwlwm yn parhau i gael ei gynnal o fewn thema integredig lle y bo hynny’n ystyrlon ac yn berthnasol. Caiff y plant eu hannog i ddatblygu hunan-hyder ac annibyniaeth wrth ddysgu, a sgiliau uwch mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Sgiliau ar draws y Cwricwlwm
Mae disgyblion yn cael cyfleoedd i adeiladu ar y profiadau a gafwyd yn ystod y Cyfnod Sylfaen, a hybu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Gymru,eu datblygiad personol a chymdeithasol:
Cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru.
Cyfleoedd i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol, datblygiad moesol ac ysbrydol; bod yn ddinasyddion gweithgar a hybu datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

Ym mhob agwedd o’r cwricwlwm cynllunnir yn ofalus i sicrhau bod y sgiliau allweddol o’r Fframwaith Sgiliau yn cael lle blaenllaw. Yn y Cyfnod Sylfaen mae’r plant yn datblygu, ymarfer, cymhwyso a mireinio eu sgiliau trwy dasgau grŵp a thasgau unigol mewn amrywiaeth o gyd-destunau ar draws y cwricwlwm.
Yng Nghyfnod Allweddol 2 mae’r plant yn cael cyfleoedd i adeiladu ar y sgiliau maent wedi dechrau eu caffael a’u datblygu yn ystod y Cyfnod Sylfaen.